Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

24 Hydref 2022

SL(6)269 Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo mewn Meddiannaeth Gyffredin) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r amgylchiadau pan fo rhaid trin dau neu ragor o hereditamentau, pa un a ydynt wedi eu meddiannu ai peidio, fel un hereditament at ddibenion pennu atebolrwydd perchennog neu feddiannwr am ardrethi annomestig.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn nodi’r amgylchiadau pan fo dau neu ragor o hereditamentau i’w hystyried yn cyffinio â’i gilydd.

Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer hereditamentau a feddiennir. Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer hereditamentau heb eu meddiannu ac mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r amod cyffinio.  Mae rheoliad 5 yn nodi’r amgylchiadau pan ystyrir fo dau hereditament yn gyffiniol.

 

Rhiant-Ddeddf: Cyllid Llywodraeth Leol 1988

Fe’u gwnaed ar: 6 Hydref 2022

Fe’u gosodwyd ar: 7 Hydref 2022

Yn dod i rym ar: 1 Mawrth 2023